Asesu Peryglon ar gyfer Ymweliadau Undydd i Ysgolion â Chanolfan y Dechnoleg Amgen
Rhestr o beryglon:
Llithriadau, baglu, toriadau ir croen a chleisiau.
Perygl anaf os nad yw rhywun yn eistedd yng ngherbyd rheilffordd y clogwyn
Oeri a gwlychu yn y tywydd
Pigiadau gwenyn
Gwlychu drwy ryngweithio ag arddangosfeydd neu syrthio i lynnoedd
Bod yn agored i afiechydon milheintiol drwy gysylltiad âr anifeiliaid ar y tyddyn
Mynediad anawdurdodedig i ardaloedd cyfyngedig ar y safle, megis gweithdai, llethrau sgri, safleoedd adeiladu neu ardaloedd lle y ceir gwaith cynnal a chadw
Disgyblion yn gadael y safle yn ddiarwybod ir athrawon.
Pobl syn cael eu heffeithio gan beryglon:
Athrawon, disgyblion ac ymwelwyr eraill
Rhagofalon presennol:
Rydym yn gofyn am isafrif cymhareb disgybl/athro o 1:6 ar gyfer plant o dan 11 oed a 1:10 ar gyfer plant dros 11 oed. Byddwn yn annog ysgolion i ddod ag oedolion ychwanegol, os oes modd. Disgwylir i ysgolion benderfynu eu hunain pa mor agos y byddant yn goruchwylio grwpiau, ar sail eu hadnabyddiaeth or disgyblion.Rydym yn eu cynghori i wisgo dillad addas.
Rydym yn gofyn y dylai pawb aros yn eu heistedd ar y trên nes iddo stopio symud.
Yn y sgwrs ragarweiniol, cynghorir grwpiau ysgol i beidio â rhedeg o gwmpas tra byddwch ar y safle.
Mae arwyddion yn eu lle syn rhybuddio pobl i ddefnyddior cyfleusterau golchi dwylo a ddarperir ar ôl ymweld âr tyddyn.
Ceir arwyddion clir yn dangos mannau gwaharddedig ac maent wediu cau. Dylech sicrhau bod y disgyblion yn ymwybodol or pwysigrwydd o gadw allan or ardaloedd hyn.
Ni chaniateir i neb o dan 16 oed deithio ar y trên os nad ydynt yng nghwmni oedolyn.
Peryglon eithriadol nad ydynt yn cael eu lleihau ir lleiaf posibl gan y rhagofalon presennol:
Dylai mamau beichiog osgoi dod i gysylltiad âr geifr oherwydd y perygl o drosglwyddo Clamydiosis Defeidiog.
Lefel y Perygl:
Isel
Jo Gwillim
Swyddog Addysg
Dyddiad yr asesiad: 18 Mehefin 2008