Centre For Alternative Technology

   CAT Education  

Day Visits: Asesu Peryglon

Asesu Peryglon ar gyfer Ymweliadau Undydd i Ysgolion â Chanolfan y Dechnoleg Amgen

Rhestr o beryglon:  
Llithriadau, baglu, toriadau i’r croen a chleisiau.
Perygl anaf os nad yw rhywun yn eistedd yng ngherbyd rheilffordd y clogwyn
Oeri a gwlychu yn y tywydd
Pigiadau gwenyn
Gwlychu drwy ryngweithio ag arddangosfeydd neu syrthio i lynnoedd
Bod yn agored i afiechydon milheintiol drwy gysylltiad â’r anifeiliaid ar y tyddyn
Mynediad anawdurdodedig i ardaloedd cyfyngedig ar y safle, megis gweithdai, llethrau sgri, safleoedd adeiladu neu ardaloedd lle y ceir gwaith cynnal a chadw
Disgyblion yn gadael y safle yn ddiarwybod i’r athrawon.

Pobl sy’n cael eu heffeithio gan beryglon:
Athrawon, disgyblion ac ymwelwyr eraill

Rhagofalon presennol:
Rydym yn gofyn am isafrif cymhareb disgybl/athro o 1:6 ar gyfer plant o dan 11 oed a 1:10 ar gyfer plant dros 11 oed. Byddwn yn annog ysgolion i ddod ag oedolion ychwanegol, os oes modd. Disgwylir i ysgolion benderfynu eu hunain pa mor agos y byddant yn goruchwylio grwpiau, ar sail eu hadnabyddiaeth o’r disgyblion.

Rydym yn eu cynghori i wisgo dillad addas.

Rydym yn gofyn y dylai pawb aros yn eu heistedd ar y trên nes iddo stopio symud.

Yn y sgwrs ragarweiniol, cynghorir grwpiau ysgol i beidio â rhedeg o gwmpas tra byddwch ar y safle.

Mae arwyddion yn eu lle sy’n rhybuddio pobl i ddefnyddio’r cyfleusterau golchi dwylo a ddarperir ar ôl ymweld â’r tyddyn.

Ceir arwyddion clir yn dangos mannau gwaharddedig ac maent wedi’u cau. Dylech sicrhau bod y disgyblion yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o gadw allan o’r ardaloedd hyn.

Ni chaniateir i neb o dan 16 oed deithio ar y trên os nad ydynt yng nghwmni oedolyn.

Peryglon eithriadol nad ydynt yn cael eu lleihau i’r lleiaf posibl gan y rhagofalon presennol:
Dylai mamau beichiog osgoi dod i gysylltiad â’r geifr oherwydd y perygl o drosglwyddo Clamydiosis Defeidiog.

Lefel y Perygl:
Isel

Jo Gwillim

Swyddog Addysg
Dyddiad yr asesiad:   18 Mehefin 2008

Rhif Elusen 265239

 
Day Visits
  • Vital Information
  • Opening Hours & Prices
  • KS 1-5 Resources
  • Tuition
  • Facilities
  • Booking Forms
  • Insurance Certificate
  • Risk Assessment
  • Asesu Peryglon
  • First Aid Procedure
  • How to get here
  • Residential Visits
  • Eco Cabins
  • Tuition
  • Risk Assessment
  • Local Area
  • Courses for Teachers
  • ESDGC Training Days
  • Sustainable Design Award
    CAT Qualifications
    Resources
    Ecofootprinting Education
    Educational Publications
    Forthcoming Events

     
     
     
    Copyright © 1995-2009 Centre for Alternative Technology Charity Limited, a company limited by guarantee
    Charity no. 265239; Company no. 1090006, registered in Wales; registered office: Llwyngwern, Machynlleth, Powys, SY20 9AZ; VAT number: 377 8917 83

    Back to top